Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (93)v3 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Datganiad gan Peter Black: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) (30 munud) |
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5084 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog;
2. Yn mynegi pryder am ddiffyg cydlyniant a chapasiti gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma ac yn nodi’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr;
3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac
4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio.
Gellir
gweld Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
drwy fynd i:
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/865/Armed%20Forces%20Report%202012-04-03%20-%20Welsh%20-%20Web%20PDF.pdf Ym mhwynt 2, dileu popeth cyn ‘rôl’ a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi’r buddsoddiad diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r’ |
5. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5086 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod:
a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg;
b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder;
2. Yn gresynu nad oedd yr holl bartneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith erbyn mis Medi 2012 fel yr addawyd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:
a) y consortia addysg rhanbarthol ar waith yn llawn cyn gynted â phosibl; a
b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt 1a, ar ôl ‘partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol’, ychwanegu ‘, ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus,’ Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1b, dileu popeth ar ôl ‘ysgolion uwchradd,’ a rhoi'r canlynol yn ei le: yn ddiffygiol iawn, ac nad oes gan athrawon, rhieni na disgyblion hyder ynddo. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y methwyd â rhoi partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith cyn y dyddiad a bennwyd. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3a, dileu popeth ar ôl ‘rhanbarthol,’ a rhoi'r canlynol yn ei le: yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei hadolygu. Gwelliant 7 -Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu pecyn cymorth helaeth a gwahaniaethol ar gyfer ysgolion uwchradd ym Mandiau 4 a 5 y mae angen eu gwella ar frys. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad yw 96.5 y cant o benaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru yn credu y bydd cynigion ar gyfer bandio ysgolion o fudd i’w hysgol, ac yn credu y gallai diffyg cefnogaeth o’r fath gan y sector i un o bolisïau allweddol Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol ar unrhyw agenda i wella ysgolion. |
6. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM5085 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) nad yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ar 31 Hydref 2012, wedi cytuno ar gyllideb gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13;
b) nad yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu paratoi cynlluniau gwasanaeth priodol oherwydd diffyg eglurder ariannol; ac
c) am y pedwar mis diwethaf yn olynol, nid yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflawni ei darged Cymru gyfan lle mae ambiwlansys yn ymateb o fewn wyth munud i 65% o alwadau Categori A (lle mae bywyd yn y fantol).
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cytuno ar gyllideb gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 fel mater o frys;
b) amlinellu rôl Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ad-drefnu’r gwasanaeth a’r effaith y gallai’r ad-drefnu hwnnw ei chael ar eu cyllideb a’u perfformiad;
c) asesu ar fyrder y cymorth sydd ar gael i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel y gall gyrraedd ei darged amser ymateb o 65% y cytunwyd arno; a
d) adolygu’r trefniadau ar fyrder lle mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sef pwyllgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl Fyrddau Iechyd Lleol, yn gorfod cytuno ar gyllideb ar gyfer ymddiriedolaeth arall.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1a, dileu ‘yw’ a rhoi ‘oedd’ yn ei le. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1b, dileu ‘yw’ a rhoi
‘oedd’ yn ei le.
Dileu is-bwynt 2a. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2a. [Os derbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 7 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le: Galw ar y Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb dros osod cyllideb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Gwelliant 7 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le: ‘parhau i asesu’r trefniadau rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu ac ariannu cadarn yn dal ar waith.’ Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r rôl hanfodol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ei chwarae wrth gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i achosion brys yng Nghymru. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gynllunio gofal brys a darparu digon o gyllid uniongyrchol i’r gwasanaethau hynny, er mwyn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflawni ei amcanion allweddol. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod GIG Cymru yn wynebu’r toriadau iechyd termau real mwyaf o holl wledydd y DU, ac y gallai hyn gael effaith andwyol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
|
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer: GOHIRWYD i 28 Tachwedd
NDM5083 Nick Ramsay (Mynwy):
Asbestos mewn ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael gwybod amdani. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2012